Hafan Gwybodaeth Cerddwch ar hyd Llwybr Dyffryn Dyfrdwy Cerdded Llwybr Gogledd y Berwyn Llangollen Corwen

Corwen i Gynwyd Cynwyd i Moel Fferna Cylch y Chwarel Coedwig Nantyr i Ffynnon Las Ffynnon Las i Llangollen

Ffynnon Las i Llangollen

 
O Ffynnon-Las mae'r llwybr yn dilyn ffordd amlwg sydd â choed ar y naill ochr a'r llall, cyn disgyn yn raddol drwy'r caeau i lawr i dref Llangollen ar lan yr Afon Ddyfrdwy.

Pellter: 2.4 km / 1.5 milltir
Graddfa: Canolig (i lawr yn raddol ond byr)

Pentref cymharol fychan oedd Llangollen cyn i Thomas Telford adeiladu'r ffordd A5 i Gaergybi drwyddo yn 1815. Daeth masnach a chyfoeth i Langollen oherwydd y ffordd newydd, ac fe dyfodd yn dref Fictoraidd ffyniannus dros ben gan ddenu ymwelwyr i fwynhau harddwch glannau'r afon gyda'r mynydd yn gefndir i'r dref. Canol y dref yw'r bont o'r 14 ganrif y mae sôn amdani yn y rhigwm enwog am Saith Rhyfeddod Cymru.

Rhwng 1790 ac 1831 roedd Plas Newydd, Llangollen yn gartref i ddwy Wyddeles fonheddig, Lady Eleanor Butler a Sarah Ponsonby. Galwyd hwy yn Ladis Llangollen ac roedd eu cyfeillgarwch yn destun diddordeb a sgandal ymhlith cymdeithas Oes y Rhaglywiaeth. Daeth nifer o bobl lenyddol a dylanwadol i ymweld â hwy, gan gynnwys Wordsworth, Sir Walter Scott, Yr Arglwydd Byron a'r Duke of Wellington.

Edrychwch am… Ychydig iawn o newid a fu i'r dirwedd hon - y lonydd suddedig a chaeau bach gyda gwrychoedd o'u cwmpas - nodweddion sydd yn dal yr un fath ers canrifoedd. Ffynna'r blodau gwyllt wrth ochrau'r llwybrau a'u hymylon o goed. Chwiliwch am lygad Ebrill ar ddechrau'r gwanwyn yna'r clystyrau o Serenllys y Gors, Bysedd y Cwˆ n tal, a'r Gwyddfid yn dringo yn yr haf..