Hafan Gwybodaeth Cerddwch ar hyd Llwybr Dyffryn Dyfrdwy Llangollen Corwen

Corwen - Carrog Carrog - Glyndyfrdwy Glyndyfrdwy - Rhewl Rhewl - Rhaeadr y Bedol Rhaeadr y Bedol - Llangollen

Carrog - Glyndyfrdwy

 
Mae'r llwybr yn dringo o'r bont garreg yng Ngharrog a thrwy'r caeau a'r coed cyn disgyn i bentref Glyndyfrdwy.

Pellter: 6.5 km/4 milltir
Graddfa: Anodd (hirach, rhai bryniau)

Pentref tlws yw Carrog a dyfodd o gwmpas y bont garreg a godwyd yn y 17eg ganrif. Mae bwâu'r bont yn ymestyn ar draws yr Afon Ddyfrdwy. Ystyr yr enw Carrog yw 'nant sy'n llifo'n gyflym'. Yn y 1600au cafodd yr hen eglwys ei golchi i'r afon gan lifogydd. Fe'i hailadeiladwyd ar dir uwch. Yn union ar draws yr afon mae gorsaf Rheilffordd Stêm Llangollen. Mae'r trenau'n rhedeg oddi yma o fis Ebrill tan fis Hydref.

Mae i bentref Carrog gysylltiadau agos gydag Owain Glyndŵr. Mae safle ei hen blas ar draws yr afon yn Llidiart-y-Parc. Ac yma, yn ymyl ffordd dyrpeg brysur yr A5, saif olion tomen castell a elwir, yn ôl traddodiad, yn Domen Owain Glyndŵr. Ychydig sy'n gwybod mai'r enw gwreiddiol ar bentref Carrog, cyn oes y rheilffyrdd, yw Llansantffraid Glyndyfrdwy. Tybir fod enw Owain Glyndŵr yn tarddu o enw'r pentref.

Chwiliwch am.... Mae dyfroedd di-lygredd y rhan yma o'r Afon Ddyfrdwy yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae yma boblogaeth iach o eog, brithyll a llysywen. Yn eu tro, mae'r pysgod hwythau'n denu'r dyfrgwn swil, sy'n dod allan yn y nos gan amlaf. Un arall sy'n byw wrth yr afon yw llygoden y dŵr-yr enwog 'Ratty', o'r llyfr The Wind in the Willows..